Math | talaith, Talaith Rufeinig |
---|---|
Prifddinas | Tanger |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | diocese of Hispania |
Gwlad | Moroco, Rhufain hynafol, yr Ymerodraeth Rufeinig |
Cyfnod daearegol | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Roedd Mauretania Tingitana yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig yn rhan orllewinol Gogledd Affrica. Roedd yn cynnwys y diriogaeth sy'n awr yn rhan ogleddol Moroco, gan gynnwys hefyd Ceuta a Melilla.[1]
Daeth y diriogaeth yn rhan o'r ymerodraeth pan orchmynodd yr ymerawdwr Caligula lofruddio'r brenin Ptolomeus yn y flwyddyn 40 OC. Rhannodd yr ymerawdwr Claudius dalaith Mauretania yn ddwy ran, Mauretania Caesariensis a Mauretania Tingitana, yn y flwyddyn 42, gan gymeryd Afon Muluya fel ffin rhyngddynt.
Prifddinas Mauretania Tingitana oedd Tingis, (Tangier heddiw), ac roedd dwy ddinas bwysig arall, sef Volubilis (ger Meknès) a Rusadir (Melilla heddiw).
Tua 285, penderfynodd yr ymerawdwr Diocletian roi'r gorau i feddiannu'r rhan o'r diriogaeth oedd i'r de o Lixus. Concrwyd yr ardal gan y Fandaliaid yn 429. Yn 533 llwyddodd y cadfridog Belisarius i adennill y diriogaeth i'r ymerawdwr Justinian.